I: Y Pwyllgor Offerynnau Statudol
Wrth: Clerc y Pwyllgor
Dyddiad: Mehefin 2011
Cyfeirnod y papur: CSI (4)-01-11(p1)
Cylch gwaith y Pwyllgor
Diben
1. Mae’r papur hwn yn nodi cylch gwaith y Pwyllgor Offerynnau Statudol er gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor.
Cylch gwaith y Pwyllgor
2. Amlinellwyd cylch gwaith y Pwyllgor yn y cynnig i’w sefydlu fel a ganlyn:
“…Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Offerynnau Statudol i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac i ystyried unrhyw faterion eraill yn ymwneud â deddfwriaeth, ar wahân i’r swyddogaethau angenrheidiol yn ôl Rheol Sefydlog 26, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.”
Swyddogaethau penodol y Pwyllgor
Rheol Sefydlog 21.2
3. Mae’r Rheol Sefydlog hon yn gosod dyletswydd ar y Pwyllgor i ystyried yr holl offerynnau statudol y mae’n ei gwneud yn ofynnol i’w gosod gerbron y Cynulliad, eu profi yn erbyn y seiliau penodol a restrwyd yn y Rheol Sefydlog, ac os bydd gan y Pwyllgor unrhyw bryderon, cyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o fewn 20 niwrnod.
Rheol Sefydlog 21.3
4. Caiff y Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar nifer o faterion eraill sy’n ymwneud ag Offerynnau Statudol unigol. Cyfeirir at yr adroddiadau hyn fel “adroddiadau ar rinweddau”. Mae hyn yn rhoi modd i’r Pwyllgor dynnu sylw at is-ddeddfwriaeth nad yw’n achosi pryder ar y seiliau technegol a nodir yn Rheol Sefydlog 21.2 ond sy’n codi materion eraill y mae’r Pwyllgor yn credu y dylid tynnu sylw’r Cynulliad atynt.
5. Nodir y Rheolau Sefydlog llawn a’r seiliau penodol ar gyfer cyflwyno adroddiad arnynt yn yr atodiad i’r papur hwn.
Materion deddfwriaethol eraill
6. Gall y Pwyllgor Busnes hefyd gyfeirio unrhyw fater deddfwriaethol arall at y Pwyllgor (ac eithrio craffu ar Filiau’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 26). Nid oes unrhyw faterion o’r fath wedi cael eu cyfeirio at y Pwyllgor hyd yn hyn.
Argymhelliad
7. Gwahoddir yr Aelodau i:
· nodi cynnwys y papur hwn a chylch gwaith y Pwyllgor; ac
· ystyried a oes unrhyw faterion sy’n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor, a’i ffordd o weithio, yr hoffent eu trafod.
Steve George
Clerc y Pwyllgor
RHEOL SEFYDLOG 21.2
21.2 Rhaid i bwyllgor cyfrifol ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:
(i) ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;
(ii) ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu
annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i
wneud neu y mae i'w wneud odano;
(iii) bod y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i’w wneud yn cynnwys
darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y
llysoedd;
(iv) ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r
deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer
hyn;
(v) bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am
unrhyw reswm penodol;
(vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft
yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol;
(vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun
Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;
(viii) bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;
(ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;
(x) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod
wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Cynulliad; neu
(xi) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod
wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau
Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).
RHEOL SEFYDLOG 21.3
21.3 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad ar unrhyw un o’r seiliau canlynol:
(i) ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn
cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau
gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r
llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn
gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am
unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm
unrhyw dâl neu daliad o’r fath;
(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn
codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb
i’r Cynulliad;
(iii) ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r
deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael
ei basio neu ei wneud ei hun;
(iv) ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn
amhriodol; neu
(v) nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith.